Gyrru’n ofalus
Rydych newydd pasio’ch prawf gyrru ac yn edrych ymlaen at ryddid eich car eich hun. Gallwch fynd i ble bynnag a phryd bynnag rydych eisiau a does neb yn gallu dweud wrthych beth i’w wneud…
OND…mae angen i chi feddwl o ddifrif am y ffordd rydych chi’n gyrru – yn arbennig os oes gennych bobl eraill yn y car.
Dyma rai awgrymiadau am ddiogelwch ar y ffyrdd a ddylai fod o gymorth:
- GWISGWCH EICH GWREGYS DIOGELWCH – gyrwyr a theithwyr yn seddau blaen a chefn y car
- RHEOLI CYFLYMDER – cadwch at y cyfyngiadau cyflymder a pheidiwch â goddiweddyd oni bai ei bod hi'n gwbl ddiogel
- BLINEDIG – peidiwch â gyrru os ydych chi wedi blino a chymerwch seibiant bob dwy awr ar siwrneiau hir
- DIOD A CHYFFURIAU – dwedwch na wrth alcohol a chyffuriau os ydych yn gyrru
- CADWCH LYGAD AR – gerddwyr, pobl ar feiciau, ceffylau a defnyddwyr eraill y ffyrdd
- CYMERWCH BWYLL – peidiwch â chynhyrfu pan fo gyrwyr eraill yn gwneud camgymeriadau. Cadwch eich pwyll a'ch pellter.
- TYWYDD - byddwch yn fwy gofalus os yw hi'n dywyll neu os yw'r tywydd yn wael
- GOLWG – cofiwch wisgo eich sbectol neu eich lensys cyffwrdd os oes arnoch eu hangen i yrru
- FFÔN - diffoddwch eich ffôn symudol cyn gyrru
- PELLTER – cadwch eich pellter oddi wrth ceir eraill fel y gallwch arafu mewn pryd, os oes angen
- GWIRIWCH EICH CAR – gwiriwch y brêcs, y teiars, y goleuadau, y drychau a'r ffenestri cyn gyrru
- CERDDORIAETH – peidiwch â photsian gyda'ch chwaraewr CD neu'ch radio wrth yrru
Prawf Gyrru
Ydych chi'n meddwl eich bod yn yrrwr da. Rhowch gynnig ar y prawf yma...
Chwarae'r gêm Ffrindiau Peryg Bywyd
Chwarae'r gêm Ffrindiau Peryg Bywyd
Y Ffeithiau


